W. S. Jones
W. S. Jones | |
---|---|
Clawr un o lyfrau Wil Sam. | |
Ffugenw | Wil Sam |
Ganwyd | 28 Mai 1920 Llanystumdwy |
Bu farw | 15 Tachwedd 2007 Bangor |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Cysylltir gyda | Theatr Y Gegin |
Dramodydd ac awdur o Gymro oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan y ffugenw W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 1920 – 15 Tachwedd 2007). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc.
Bywyd a gwaith
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Gwerthodd y modurdy yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramâu i’w perfformio yn Theatr Y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr Y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Yn 1953 priododd Dora Ann Jones (16 Mawrth 1928 - 29 Mawrth 2023)[2] a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin.[3] Mae'n frawd i'r arlunydd a llenor Elis Gwyn Jones.
Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor. Cafwyd Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]-
Clawr ei gofiant.
-
Cyfrol deyrnged hon i W. S. Jones
Gwaith Wil Sam
[golygu | golygu cod]- Tair Drama Fer (1962)
- Pum Drama Fer (1963)
- Tŷ Clap (1965)
- Dau Frawd (1965)
- Y Fainc (1967)
- Dinas Barhaus: a thair drama arall (1968)
- Mae Rhywbeth Bach (1969)
- Y Toblarôn (1975)
- Dyn y Mynci (1979)
- Y Sul Hwnnw (1981)
- Ifas y Tryc (1983)
- Ifas Eto Fyth! (1987)
- Deg Drama Wil Sam (1995)
- Llifeiriau (1997)
- Ben Set (2002)
- Rhigymau Wil Sam (2005)
- Mân Bethau Hwylus: Cymeriadau Eifionydd (2005)
- Newyddion y Ffoltia Mawr (2005)
Astudiaeth
[golygu | golygu cod]- W. S. Jones, Wil Sam, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wil Sam: Cofio awdur, mecanic a thaid". BBC Cymru Fyw. 2020-05-28. Cyrchwyd 2023-10-29.
- ↑ "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2023-10-29.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Dora Ann JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
- ↑ Owen, John (2015-02-05). "JONES, WILLIAM SAMUEL (Wil Sam) (1920-2007), dramodydd". Bywgraffiadur Cymru. Cyrchwyd 2023-10-29.
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.