Dinas Barhaus
Awdur | W.S. Jones |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1968 |
ISBN | 9780950017808 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Drama lwyfan fer Gymraeg gan Wil Sam Jones yw Dinas Barhaus. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Y Lolfa ym 1968.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]'Cwt Barbwr gweddol flêr' ydi lleoliad y ddrama.[1] "Dinas barhaus, cartra, cartra sefydlog sgin i isio. Rydwi yn byw mewn ofn yli...", ydi un o linellau cyntaf y ddrama gan y cardotyn o arlunydd, Dai. Ond herio'r "Hen siarad Beibil gwirion" wna'r ail gymeriad, "y dyn busnes" Henri. Adlais sydd yma o adnod o Lyfr yr Hebreaid yn y Beibl: "Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod."[2]
Mae'r ddau gymeriad, Henri a Dai, yn dyheu am gartref sefydlog. A hwythau newydd ymgartrefu yn y cwt barbwr, ers "dau ddiwrnod", mae'r drafodaeth am ba mor hir i aros yno, yn codi atgofion am eu gorffennol a'u dyheadau pellach. Ond daw ymwelydd yno, sy'n cael ei ddisgrifio fel 'dyn', ac yn honni mai ef yw perchennog y siop. Try'r drafodaeth rhwng y tri yn ffrae.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Mae 'na lawer o bobol yr ymylon yn eich dramâu chi", oedd un sylw wnaeth Myrddin ap Dafydd pan yn cyfweld y dramodydd ar gyfer y gyfrol Deg Drama Wil Sam: " Oes - cofia," oedd ateb Wil Sam, "mi ges i beth wmbrath o gwmni yr hen John Preis [y tramp] [...] Dwin cofio mynd i weld [The] Caretaker, [Harold] Pinter — doedd gan y tramp yn honno 'mond rhyw dri peth — ei gredenshals, ei sgidia a'r tywydd, a dyna fo. 'Run petha â John Preis wsti, ond roedd John yn ddifyrrach na hwnnw. Doedd gynno fynta ddim llawar o betha ond doedd o ddim yn dal i rygnu yr un fath â thramp Pinter."[1]
"...Os bydd rhywun yn ceisio darganfod ystyr yn y ddrama hon," medde brawd y dramodydd, Elis Gwyn Jones, "byddai'n ddiogel honni mai ymchwil am sicrwydd a pharhad a welir yma hefyd. Ymchwil hollol agored am ddinas barhaus sydd yn Dinas Barhaus."[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Henri
- Dai
- Dyn
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Cwmni Drama Y Gegin, Cricieth.
Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Ddieithr ym 1972. Cyfarwyddydd Valmai Jones
- Henri - Stewart Jones
- Dai - Meic Povey
- Dyn - Clive Roberts
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Jones, Wil Sam (1995). Deg Drama Wil Sam. Gwag Carreg Gwalch.
- ↑ Hebreaid 13:14 Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod. | Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND) | Download The Bible App Now.
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.