For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Geiriadur yr Academi.

Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi (Saesneg: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) yw'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Ffrwyth blynyddoedd o waith gan y golygyddion Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ydyw. Fe'i cyhoeddwyd yn 1995 a chafodd ail gyhoeddi fel fersiwn diwygiedig ym Medi 2003.

Mae'n gyfrol swmpus o dros 1,700 tudalen (tt. lxxxi + 1716) a gyhoeddir gan Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig. Cynhwysir llu o enwau Cymraeg am dermau newydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, cyfrifiadureg, masnach, cyfryngau torfol, addysg, a.y.b.

Yn ôl Bruce Griffiths, nid yw'n dechnegol bosibl ychwanegu at y geiriadur, ers tua 2008, gan nad yw'r wasg yn gallu newid y prif destun. Dywedodd yn Golwg, "Mi wnaethon nhw brintio cywiriadau fel atodiad i'r prif destun. Ond yn anffodus, mae'r fersiwn ar-lein wedi'i gynnwys heb yr atodiad. Er enghraifft, dydy'r gair website ddim yno (ar-lein) ond mae yn yr atodiad papur."[1]

Fersiwn ar-lein

[golygu | golygu cod]

Lansiwyd fersiwn ar-lein o'r geiriadur ym mis Chwefror 2012.[2][3] Nid yw'n cynnwys y diweddariad a argraffwyd fel atodiad. Fe'i trosglwyddwyd cyfrifoldeb y fersiwn arlein i Fwrdd yr Iaith (a drodd yn Gomisiynydd y Gymraeg)[4] a oedd a chyfrifoldeb i "addasu ac adnewyddu'r geiriadur". Datblygwyd y fersiwn arlein gan Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ar ran Comisiynydd y Gymraeg. Mae'n bosib chwilio’r fersiwn ar-lein gyda rhyngwyneb Gymraeg neu Saesneg.

Yn 2018 roedd cyfartaledd o 9,735 o bobl yn ymweld â'r Geiriadur Arlein (geiriaduracademi.org) yn ôl Alexa Rank.[5]

Manylion cyhoeddi

[golygu | golygu cod]

Geiriadur yr Academi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; argraffiad newydd Medi 2003). ISBN 978-0-7083-1186-8

Broliant - Y geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed yn cynnwys cyfystyron, dyfyniadau eglurhaol, priod-ddulliau, termau arbenigol a thechnegol ac ati ynghyd â disgrifiad gramadegol cryno o'r iaith. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1995. Argraffiad gyda diwygiadau ac ychwanegiadau.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pryderu am ddyfodol Geiriadur yr Academi", Golwg 24 (34): 5, 2012
  2.  Geiriadur yr Academi yn ddigidol. BBC Cymru (28 Chwefror 2012).
  3.  Geiriadur Yr Academi bellach ar gael ar y we. BBC Cymru (28 Chwefror 2012).
  4. bbc.co.uk; adalwyd 30 Ebrill 2018.
  5. geiriaduracademi.org; adalwyd 30 Ebrill 2018.
  6. gwales.com; adalwyd 30 Mai 2018.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Geiriadur yr Academi
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?