Y cyfryngau torfol
Cyfryngau sydd wedi'u hanelu at gynulleidfa enfawr yw'r cyfryngau torfol, er enghraifft teledu, radio, ffilm, papurau newydd neu'r rhyngrwyd. Mae'r cysyniad yn dyddio'n ôl i'r dauddegau, gyda dyfodiad rhwydweithiau radio cenedlaethol a phapurau newydd eang eu cylchrediad, er bod rhai cyfryngau (llyfrau a llawysgrifau) a chanddynt gynulleidfa fawr yn bodoli ganrifoedd ynghynt.
Mae'r term hefyd yn cwmpasu'r cyrff hynny sy'n rheoli'r dechnoleg yma, megis gorsafoedd teledu neu gwmniau cyhoeddi.[1] Mae'r rhyngrwyd yn cyrraedd statws cyfryngau torfol oherwydd y gwasanaethau mae'n ei gynnig e.e. ebost, gwefanau, blogio, y we a theledu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mass media", Oxford English Dictionary, fersiwn ar-lein, Tachwedd 2010
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.