For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Rhestr o esgyrn y sgerbwd dynol.

Rhestr o esgyrn y sgerbwd dynol

Sgerbwd Dynol
Diagram o'r sgerbwd dynol
Anatomeg

Dyma restr o esgyrn y sgerbwd dynol.

Mae sgerbwd dynol oedolyn yn cynnwys 206 asgwrn. Mae'n cynnwys 270 o esgyrn ar enedigaeth, sy'n gostwng i 80 asgwrn yn y sgerbwd echelinol (28 yn y benglog a 52 yn y torso) a 126 esgyrn yn y sgerbwd atodol (32 × 2 yn yr eithafoedd uchaf, gan gynnwys y ddwy fraich a 31 × 2 yn yr eithafoedd isaf gan gynnwys y ddwy goes). Dydy’r cyfrif ddim yn cynnwys nifer o esgyrn bach sydd yn aml yn amrywiol, megis rhai o’r esgyrn sesamoid.

Cyflwyniad

[golygu | golygu cod]

Mae nifer yr esgyrn yn y sgerbwd yn newid gydag oedran, wrth i nifer o esgyrn ymdoddi. Bydd y broses ymdoddi fel arfer yn cael ei gwblhau yn y trydydd degawd o oedran. Mae'r esgyrn y benglog a'r wyneb yn cael eu cyfrif fel esgyrn ar wahân, er iddynt ymdoddi’n naturiol. Mae rhai o’r esgyrn sesamoid dibynadwy megis yr asgwrn pysennaidd yn cael eu cynnwys yn y cyfrif, tra bod eraill, megis yr esgyrn sesamoid hallux, yn cael eu hepgor. Gall unigolion gael mwy neu lai o esgyrn na’r nifer sydd wedi rhestru isod oherwydd amrywiadau anatomegol neu genetig.

Yr esgyrn

[golygu | golygu cod]

Y meingefn (asgwrn cefn)

[golygu | golygu cod]

Prif erthygl Asgwrn cefn Mae gan oedolyn llawn dwf 26 o esgyrn yn y meingefn, tra gall plentyn gael 34.

  • Fertebrâu gyddfol (7)
  • Fertebrâu thorasig (12)
  • Fertebrâu meingefnol (5)
  • Fertebrâu sacrol (5 ar enedigaeth, yn toddi, wrth dyfu, i un)
  • Yr asgwrn cynffon (5 ar enedigaeth, gan doddi yn un) Enw Cymraeg arall cwtyn y gynffon cwtyn y cynffon

Y thoracs (y frest)

[golygu | golygu cod]

Fel arfer mae 25 o esgyrn yn y frest, ond bydd gan tua 0.8% o’r boblogaeth asennau gyddfol ychwanegol (asennau serfigol). Mae asennau gyddfol yn gyffredin mewn rhai anifeiliaid megis ymlusgiaid.

  • Sternwm (1) Enwau eraill: ‘’asgwrn y frest; clwyd y ddwyfron; clwyd ais’’
  • Yr asennau (24, yn 12 pâr)

Cranium (penglog, creuan)

[golygu | golygu cod]

Mae 22 o esgyrn yn y benglog. Gan gynnwys yr asgwrn hyoid ac esgyrn y glust ganol, mae’r pen yn cynnwys 29 o esgyrn.

  • Esgyrn cranial (8)
    • Asgwrn gwegil
    • Esgyrn parwydol (2)
    • Asgwrn blaen (talcen)
    • Esgyrn arleisiol (2)
    • Asgwrn sffenoid
    • Asgwrn bôn y trwyn
  • Esgyrn yr wyneb (14)
    • Esgyrn trwynol (2)
    • macsilâu (ên uchaf) (2)
    • Asgwrn ddagrau (2)
    • Asgwrn cernol neu asgwrn y boch (2);
    • Asgwrn taflodol (2)
    • Y concoid trwynol israddol (2)
    • Fomer (yr asgwrn swch)
    • Mandibl (ên isaf)
  • Hyoid (sydd heb ei gysylltu ag unrhyw asgwrn arall)
  • Yr esgyrnynnau yn y clustiau canol (6)

Y Fraich

[golygu | golygu cod]

Mae cyfanswm o 64 o esgyrn yn y fraich.

  • Esgyrn y fraich uchaf (6 asgwrn, 3 ar bob ochr)
    • Hwmerws
  • Gwregys pectoral (yr ysgwydd)
    • Palfais (padell yr ysgwydd)
    • Pont yr ysgwydd
  • Esgyrny fraich isaf (4 asgwrn, 2 ar bob ochr)
  • Esgyrn y llaw (54 asgwrn, 27 ym mhob llaw)
    • Carpal
    • Sgaffoid (2)
    • Asgwrn cilgant (2)
    • Asgwrn tricwetral ( (2)
    • Asgwrn pysennaidd (2)
    • Trapesiwm (2)
    • Asgwrn trapesoid (2)
    • Asgwrn capitate (2) (methu canfod term Cymraeg)
    • Asgwrn hamate (2) (methu canfod term Cymraeg)
    • Metacarpol (5 × 2 = 10)
  • Ffalangau y llaw
    • Ffalangau procsimol (5 × 2 = 10)
    • Ffalangau canolradd (4 × 2 = 8)
    • Ffalangau distal (5 × 2 = 10)

Pelfis (Y clun, isgeudod, ceudod pelfig, gwregys pelfig)

[golygu | golygu cod]

Mae gan y pelfis tri rhanbarth:

  • Iliwm
  • Ischiwm
  • Pwbis (2)

Y Goes

[golygu | golygu cod]
  • Forddwyd (2)
  • Padell pen-glin (2)
  • Tibia (2)
  • Ffibwla (2)
  • Y droed (52 asgwrn, 26 ym mhob troed)
    • Tarsws
      • Asgwrn y sawdl (2)
      • Talws (2)
      • Asgwrn cychog (2)
      • Asgwrn cunffurf canolig (2)
      • Asgwrn cunffurf canolradd (2)
      • Asgwrn cunffurf ochrol (2)
      • Asgwrn ciwboid (2)
    • Metatarsol (10)
    • Ffalangau’r droed
      • Ffalangau procsimol (5 × 2 = 10)
      • Ffalangau canolradd (4 x 2 = 8)
      • Ffalangau distal (5 x 2 = 10)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Bones of the Human Body Archifwyd 2017-07-25 yn y Peiriant Wayback.

Geiriadur yr Academi

Geiriadur Prifysgol Cymru

Termau nyrsio a bydwreigiaeth Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, 1997 ISBN 0904567958

Rhybudd Cyngor Meddygol

[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Rhestr o esgyrn y sgerbwd dynol
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?