Noson Lawen (rhaglen deledu)
Noson Lawen | |
---|---|
Genre | Adloniant |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 33 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Cwmni Da |
Amser rhedeg | 60 munud (gyda hysbysebion) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 11 Tachwedd 1982 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Rhaglen adloniant yw Noson Lawen. Mae wedi cael ei darlledu ar S4C bob blwyddyn ers 1982 ac mae'n arddangos doniau cantorion, digrifwyr a chorau o flaen cynulleidfa fyw, boed mewn sgubor, stiwdio deledu neu neuadd chwaraeon. Mae nifer o bobl wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen, gan gynnwys Glan Davies.
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Darlledwyd y rhifyn cyntaf ar 11 Tachwedd 1982, wythnos ar ôl lansio sianel deledu S4C. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Teledu'r Tir Glas bryd hynny. Recordiwyd y rhaglen gyntaf ar Fferm Tyddyn 'Ronnen, Llanuwchllyn, Gwynedd a'r cyflwynydd cyntaf oedd yr actor Trefor Selway. Roedd perfformiadau gan gantorion Triawd Lliw, Côr Merched Uwchllyn gydag Elin Mair Jones yn cyfeilio ar y delyn, Triawd Menlli, gyda Gwenda Williams, Einion Edwards, Plant Llanuwchllyn, o dan arweiniad Robin Glyn ac Audrey Williams.[1]
Roedd y cyfresi gwreiddiol yn adlewyrchu gwreiddiau gwledig y rhaglen, gyda'r gynulleidfa yn eistedd ar bêls gwair, gyda'r perfformwyr wedi eu gosod ar drelar fferm.
Erbyn 1996 y cynhyrchydd oedd cwmni Tonfedd (Tonfedd Eryri yn ddiweddarach) ac yna Cwmni Da.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Noson Lawen (traddodiad gwerin)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Noson Lawen yn edrych ymlaen ac edrych yn ôl wrth i rifyn cyntaf o’r sioe gael ei darlledu eto. S4C (26 Mehefin 2015). Adalwyd ar 25 Awst 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Noson Lawen ar wefan S4C
- (Saesneg) Noson Lawen ar wefan Internet Movie Database
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.