For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Aberpennar.

Aberpennar

Aberpennar
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberpennar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6814°N 3.3792°W Edit this on Wikidata
Cod OSST025915 Edit this on Wikidata
Cod postCF45 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auGerald Jones (Llafur)
Map

Tref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberpennar[1] (Saesneg: Mountain Ash). Yn wreiddiol Aberpennarth oedd enw'r dref.[2] Fe'i lleolir yng Nghwm Cynon. Llifa Afon Cynon heibio'r dref.

Rhennir y dref yn ddwy gymuned: Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Aberpennar boblogaeth o 13,005.[3]

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefnpennar, Cwmpennar, Darranlas, Glenboi a'r Drenewydd. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Forgannwg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Gerald Jones (Llafur).[4][5]

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, cyfeiriodd yr enw Aberpennar at y fan lle rhed nant Pennar (neu Penarth yn y ffurfiau cynharaf) i Afon Cynon ar ddiwedd ei chwrs i lawr o dir uchel Cefnpennar, ac ar ochr ogleddol tro yn y afon honno. Ceir y ffurf "aber pennarthe" yn 1570, "Aberpennarth" ymn 1600, a "Tir Aber Penarth" yn 1638. Yn ôl Gwynedd O. Pierce mae'n bosib taw ffurf amrywiol yw enw'r nant ar "pennardd", sef pentir neu gefnen i dir, yn yr achos hon tir uchel Cefnpennar, lle mae ei tharddiad. Ger y tir a elwid Aberpennar safai plasty'r teulu Bruce (o 1750) a âi dan yr enw Dyffryn, ac ar un adeg ceid Aberpennar fel enw amgen i'r plasty hefyd: Aberpennar alias Dyffryn ym 1691, a Dyffrin alias Aberpennar ym 1717.[6]

Ar ddechrau'r 19eg ganrif codwyd tafarn o'r enw "Mountain Ash" ar y stryd a elwir yn Commercial Street heddiw, ac wedi hynny daeth "Mountain Ash" yn enw Saesneg y dref. Nid yw'n sicr pwy a'i henwodd a phaham, ond yn ôl un ffynhonnell y tirfeddiannwr John Bruce Pryce a'i henwodd, a medd rhai taw cerddinen (yn Saesneg: mountain-ash) a safai gerllaw oedd ysbrydoliaeth yr enw. Dyddia'r enw o'r 1830au, ac ym 1852 cyfeiriodd dogfen at Mountain Ash Inn mewn pentref o ryw chwe chant o dai a oedd ar fin tyfu'n dref ddiwydiannol, ac a enwyd ar ôl y dafarn,a hynny yn is i lawr yr afon na phlasty'r Dyffryn, ac ar yr ochr orllewinol.[6]

Ysgrifennodd Dafydd Morganwg y camgymeriad hwn yn ei Hanes Morganwg (1874): "Enw cyntefig y lle oedd Aberpenar". Roedd William Thomas (Glanffrwd), ym 1878–88, yn dal i ofidio nad oedd i'r lle "a adwaenir mwyach wrth ei enw Saesneg, Mountain Ash" enw Cymraeg. Dim ond ar droad yr 20g y trosglwyddodd yr hen enw Aberpennar o ochr arall yr afon i ddod yn enw Cymraeg safonol y dref, yn bosib adeg cynnal Eisteddfod Genedlaethol 1905 yno yn ôl Gwynedd O. Pierce.[6]

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd yng Nghymoedd De Cymru, ni ddatblygwyd y dref ryw lawer gan ddiwydiant; eithriad i hyn yw Camlas Aberdâr yn 1818 ond a lenwyd a'i addasu'n ffordd (sef Ffordd Newydd Caerdydd) yn gynnar yn 1933.[7]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberpennar (pob oed) (7,374)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberpennar) (740)
  
10.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberpennar) (6652)
  
90.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Aberpennar) (1,512)
  
46.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ym 1905 a 1946. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 10 Mehefin 2024
  2. Burkitt, Sian (2021-10-15). "The Welsh place names at risk of being lost and forgotten". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-16.
  3. City Population; adalwyd 10 Mehefin 2024
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. 6.0 6.1 6.2 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t.9
  7. "Mountain Ash". Rhondda Cynon Taff. http://webapps.rhondda-cynon-taff.gov.uk/heritagetrail/cynon/mountain_ash/mountainash.htm. Adalwyd 2009-01-01.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Aberpennar
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?