For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for John Ford (cyfarwyddwr ffilm).

John Ford (cyfarwyddwr ffilm)

John Ford
GanwydSean Aloysius O'Feeney Edit this on Wikidata
1 Chwefror 1894 Edit this on Wikidata
Cape Elizabeth, Maine Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1973 Edit this on Wikidata
Palm Desert Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Portland High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, swyddog yn y llynges, sgriptiwr, actor ffilm, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadThe Plow That Broke the Plains Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
PriodMary McBride Smith Edit this on Wikidata
PlantBarbara Ford Edit this on Wikidata
Gwobr/auLlengfilwr y Lleng Teilyndod, Calon Borffor, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Medal Aer, Navy & Marine Corps Commendation Medal, Combat Action Ribbon, China Service Medal, American Defense Service Medal, Medal Ymgyrch America, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Asiatic-Pacific Campaign Medal, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Navy Occupation Service Medal, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Korean Service Medal, Naval Reserve Medal, United Nations Korea Medal, Urdd Leopold, Owen Wister Award Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd John Ford (ganed John Martin Feeny; 1 Chwefror 189431 Awst 1973)[1] sydd yn nodedig am ei ffilmiau yn genre'r Gorllewin Gwyllt, gan gynnwys Stagecoach (1939) a The Searchers (1956), a'i addasiadau o nofelau megis The Grapes of Wrath (1940) a How Green Was My Valley (1941). Gweithiodd yn aml gyda'r actor John Wayne.

Enillodd bedair Gwobr yr Academi am Gyfarwyddwr Gorau: The Informer (1935), The Grapes of Wrath, How Green Was My Valley, a The Quiet Man (1952).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed John Martin Feeny ar 1 Chwefror 1894 yn Cape Elizabeth, Maine, yn fab i Sean O'Feeney a'i wraig Barbara (Curran gynt). Ymfudwyr o Galway oedd ei rieni, a llongwr oedd Sean.[2] Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu'n aml yn Gwyddeleiddio'i enw i Sean Aloysius O'Feeney neu O'Fearna.[1] Fe'i magwyd yn Portland, Maine, ac yn ei arddegau gweithiodd ar lwythlongau yn ystod gwyliau'r haf.[2] Graddiodd o'r uwchysgol ym 1913 ac astudiodd ym Mhrifysgol Maine am gyfnod.[3] Methodd â'i derbyn i Academi Lyngesol yr Unol Daleithiau yn Annapolis, Maryland, felly aeth ym 1914 i Hollywood lle'r oedd ei frawd hŷn yn gyfarwyddwr ac yn actor dan yr enw Francis Ford.[2]

Gweithiodd John yn arolygwr celfi, styntiwr beic modur, dyn camera cynorthwyol, a grip ar setiau ffilmiau Francis, a bu hefyd yn chwarae mân rannau ac yn cyfrannu at sgriptiau, a dysgodd grefft y sinema, yn enwedig gwaith camera a thechnegau golygu. Cafodd ei alw yn Jack Ford, ac felly mabwysiadodd yr enw John Ford pan ddechreuodd wneuthur ffilmiau ei hun.[2]

Y cyfnod mud

[golygu | golygu cod]

Y ffilm gyntaf i John Ford ei chyfarwyddo oedd The Tornado (1917), gwaith sydd bellach ar goll. O'r cychwyn yr oedd yn gyfarwyddwr toreithiog o ffilmiau dau-rolyn y sinema fud, a rhyddhawyd rhwng pump a deg o ffilmiau dan ei enw pob blwyddyn, mwy na 50 ohonynt i gyd yn y cyfnod o 1917 i 1928. Fodd bynnag, dim ond ychydig ohonynt sydd yn goroesi. Daeth Ford yn adnabyddus yn sgil llwyddiant The Iron Horse (1924), un o'r ffilmiau epig cyntaf yn genre'r Gorllewin Gwynt, a'r ffilm ddrama Four Sons (1928).

Diwedd ei oes

[golygu | golygu cod]

Bu farw John Ford ar 31 Awst 1973 o ganser yn ei gartref yn Palm Desert yn ne Califfornia, yn 79 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) John Ford (American director). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Albin Krebs, "John Ford, the Movie Director Who Won 5 Oscars, Dies at 78", The New York Times (1 Medi 1973). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2020.
  3. (Saesneg) "John Sean O'Feeney Ford", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2023.
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
John Ford (cyfarwyddwr ffilm)
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?