Helen Thomas
Helen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 16 Awst 1966 Castellnewydd Emlyn |
Bu farw | 5 Awst 1989 o damwain cerbyd Menywod Greenham Common |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, ymgyrchydd heddwch |
Ymgyrchydd heddwch o Gymraes oedd Helen Wyn Thomas (16 Awst 1966 – 5 Awst 1989). Cafodd ei lladd yng Ngwersyll Greenham pan yrrodd fan geffylau Heddlu Canolbarth Gorllewin Lloegr yn rhy agos ati fel roedd yn sefyll ar ochr y ffordd. Cymraes o Gastell Newydd Emlyn oedd hi a mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi. Roedd yn caru'r iaith a'i diwylliant.
Roedd merched y gwersyll wedi neulltio ardal dawel, i gofio Helen, lle gallai'r merched dreulio amser tawel a myfyrio. Daeth beiliaid Cyngor Dosbarth Newbury a dinistrio'r lle yn bwrpasol.
Cofiant
[golygu | golygu cod]Ganwyd Helen Wyn Thomas ar y 16eg o Awst 1966. Aeth hi i Brifysgol Cymru, Llanbed, a graddiodd mewn hanes. Wedi iddi raddio, symudodd i Gaerdydd, a chychwynnodd weithio i Women’s Aid yno, cyn ymddiddori yng Nghwersyll Heddwch Greenham Common.[1] Roedd Helen Wyn Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn.
Bu farw ddau fis wedi iddi symud i’r gwersyll heddwch o anafiadau i’w phen wedi iddi gael ei tharo gan gar heddlu wrth aros i groesi’r ffordd fer y Gât Felen yn y gwersyll. Roedd hi’n 22 mlwydd oed.[2]
Ar ôl cau'r gwersyll, ym mis Medi 2000 penderfynwyd codi safle goffa a hanesyddol yno gan gynnwys Gardd Goffa Helen.
Yn 2010, cynhaliwyd gwasanaeth i’w chofáu yn Greenham Common. Yn 2011, gosodwyd mainc yng Nghastell Newydd Emlyn i’w chofáu. Ysgrifennodd Dafydd Iwan ei gân, ‘Can i Helen’ amdani.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ BBC News. "Greenham Common campaigner Helen Thomas is honoured". BBC. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Wales Online. "The woman who paid the ultimate price for peace". Wales Online. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Lois, Efa. "Helen Wyn Thomas". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help)
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.