For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Esther (drama).

Esther (drama)

Esther
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrDinefwr Press, Llandybïe
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiCyhoeddiad cyntaf: 1960
Argraffiad diweddaraf: Gorffennaf 2000
ISBN9780715406465
Tudalennau102 Edit this on Wikidata
GenreDrama

Drama gan Saunders Lewis ydy Esther a gyhoeddwyd gyntaf yn 1960.[1] Comisiynwyd Esther yn wreiddiol gan y BBC fel drama radio ym 1958 ac fe'i llwyfannwyd am y tro cyntaf mewn gŵyl drama flynyddol yn Llangefni.[2] Seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ar hanes yr Iddewes, Esther, a geir yn y Beibl - stori llawn hunan aberth a chynllwyn. Roedd Esther (enw sy'n golygu seren neu hapusrwydd, yn yr Hebraeg) yn wraig i Ahasferus, Brenin Persia rhwng 485-465 CC ac yn Iddewes.

Addaswyd y ddrama ar gyfer plant a phobol ifanc gan CBAC yn 2000, yn un o dair drama Saunders Lewis.[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Y Frenhines Esther
  • Y Brenin Ahasferus - Brenin Persia
  • Haman - y Prif Weinidog
  • Harbona - Swyddog yn y Palas
  • Mordecai - Cefnder y Frenhines

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1950au

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchiad o'r ddrama radio ar gyfer BBC Cymru.

1960au

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchiad John Gwilym Jones.

1970au

[golygu | golygu cod]
Rhaglen y cynhyrchiad o Esther 1979

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1979. Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley; rheolwr llwyfan Iestyn Garlick; dirprwy reolwr Elinor Roberts; cynorthwywr Julia Jones; goleuo a sain Gareth Jones; cynorthwyr Siôn Havard Gregory; gwisgoedd Gwyneth Roberts a Janice Dickson; prif saer: Glyn Richards; cast:

Llun o gast cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Esther 1979

"Penderfyniad David oedd i ni fod yn Iddewon yn performio'r ddrama ar ŵyl y 'Purum'," yn ôl Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "pryd mae'r Iddewon yn dathlu bod y Frenhines Esther wedi eu hachub nhw fel cenedl. Esther wahanol oeddwn i ar y Ilwyfan i'r llun ohona i ar y poster. Dillad carpiog oedd ganddon ni i gyd, ac actorion dan hyfforddiant y Cwmni yn cymryd rhan fel y cyd-garcharorion. Fe wnaeth David y cynhyrchiad yn un ensemble lle'r oedd pawb yn cyfrif. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i'n chwarae'r brif ran, dim ond yn un o dîm," ychwangeodd.[4]

2000au

[golygu | golygu cod]
Llun cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther 2006

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2006, pan oedd y cwmni o dan oruchwyliaeth Cefin Roberts. Dewisiwyd Daniel Evans i gyfarwyddo'r cynhyrchiad, yr ail gynhyrchiad iddo'i gyfarwyddo'n broffesiynol.[5] Cynllunydd Guto Humphreys; cerddoriaeth Dyfan Jones; cast:

Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau ffafriol iawn yn y Wasg. Dyma oedd gan Paul Griffiths i'w ddweud yn Y Cymro: "Mae Gŵyl y Purim yn ddiwrnod pwysig i’r Iddewon. Dyma’r dydd maen nhw’n diolch am ddewrder y Frenhines Esther am achub eu hil. Mi fydda innau’n fythol ddiolchgar am yr unfed-ar-hugain o Ebrill 2006, oherwydd dyma pryd y bu i Daniel Evans adfer fy ffydd innau yn y Ddrama Gymraeg! [...] Heb egwyl rhwng bob Act, fe blethwyd y cyfan yn fedrus a theatrig a hynny gyda graen brofiadol."[5]

"Ar ddechrau eu Tymor o Glasuron, mae'n braf cael datgan yn hyderus fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i'w hoed," oedd barn Eifion Lloyd Jones ar wefan BBC Cymru; "Dyma gynhyrchiad teilwng a chaboledig, gyda sawl perfformiad nodedig ac un cwbl arbennig [...] Heb amheuaeth, Rhys Parry Jones oedd brenin y cynhyrchiad [...] 'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen. A 'fedra'i ddim cofio gweld unrhyw actor yn rhagori ar ei berfformiad yma mewn unrhyw ddrama arall, ychwaith."[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y BBC
  2. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
  3. Ynys Môn
  4. Rhys, Maureen (2006). Prifio - hunangofiant Maureen Rhys. Gomer. ISBN 1 84323 762 8.
  5. 5.0 5.1 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
  6. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Esther (drama)
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?