For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.

Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Enghraifft o'r canlynoltransport hub, gorsaf fysiau Edit this on Wikidata
PerchennogLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrTrafnidiaeth Cymru Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am yr orsaf fysiau Caerdydd tan 2015, gweler Gorsaf fysiau Caerdydd Canolog
Cyntedd cyhoeddus a man aros

Prif gyfnewidfa bysiau prifddinas Cymru yw Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Agorwyd y gyfnewidfa ym Mehefin 2024.

Datblygu ac adeiladu

[golygu | golygu cod]

Caeodd yr hen orsaf fysiau Caerdydd yn 2015, a chafwyd cynlluniau i ail-datblygu'r Sgwâr Canolog a'r cyffiniau.[1] Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwyliwyd i'r orsaf newydd gael ei chwblhau erbyn 2022.[2] Yn 2016 cafodd yr hen adeiladau ar y safle, Marland House a'r maes parcio aml-lawr, eu dymchwel.[3]

Yn 2019 llofnodwyd contract rhwng cwmnïau Rightacres, Legal & General, a Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adeilad, gan gynnwys swyddfeydd a mwy na 300 o fflatiau i'w rhentu.[4]

Agorodd y Gyfnewidfa Fysiau newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[5] Dim ond 50 metr sydd i gerdded rhwng y Gyfnewidfa newydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a'r bwriad yw bod y ddau wasanaeth trafnidiaeth yn cydweithio i hwyluso siwrneiau teithwyr.[6]

Cyfleusterau a gwasanaethau

[golygu | golygu cod]
Bae Bws

Mae'r gyfnewidfa'n cynnwys 14 bae bws a nifer o unedau manwerthu ar lefel y ddaear.[7] Ceir hefyd adnoddau hanfodol toiledau, thoiledau hygyrch, ac ystafelloedd newid ar y safle.[6]

Roedd 25 bws yr awr yn defnyddio'r orsaf, i gyrchfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd disgwyl i hynny gynyddu i 60 bws yr awr erbyn diwedd 2024.[5] Bu cwmni fysiau Stagecoach yn defnyddio'r safle o fis Gorffennaf 2024 ymlaen ar gyfer rhai o'u llwybrau taith.[6]

Roedd gwasanaethau bws eraill Caerdydd yn parhau i ddefnyddio safleoedd bws ar draws canol y ddinas. Mae National Express yn parhau i ddefnyddio'r orsaf fysiau yng Ngherddi Sophia ar gyfer bysiau'n mynd i gyrchfannau ar draws y Deyrnas Unedig.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu. BBC Cymry Fyw (1 Awst 2015). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
  2.  Lleu, Bleddyn (18 Medi 2020). Gorsaf fysiau Caerdydd ddim yn barod tan ddiwedd 2022. Golwg360. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
  3. (Saesneg) Demolition of Cardiff city centre 'eyesore' starts. BBC News (3 May 2016). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
  4. (Saesneg) Cardiff's bus station is finally going to be built - but won't open for another four years. Wales Online (30 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
  5. 5.0 5.1  Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau. BBC Cymry Fyw (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd". Cyfnewidfa Fysiau Caedydd. Cyrchwyd 1 Awst 2024.
  7.  Gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un. Newyddion S4C (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?