For faster navigation, this Iframe is preloading the Wikiwand page for Comin Wicimedia.

Comin Wicimedia

Logo Comin Wikimedia (gan Reid Beels)

Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wikimedia (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wicimedia yw hi, a gellir gweld prosiectau eraill Sefydliad Wikimedia, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, yn defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.

Lansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho.

Ar 25 Tachwedd 2009, rhoddodd y Tropenmuseum, Amsterdam rodd o 35,000 o ddelweddau sy'n ymwneud ag Indonesia a'i diwylliant i Gomin Wikimedia. Ar ddiwedd Rhagfyr 2009 dechreuwyd trosglwyddo tua 1.5 miliwn o ddelweddau o dirwedd ac aneddiadau gwledydd Prydain o wefan geograph.or.uk i'r Comin.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]

Prif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddiwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i mewn i ieithoedd eraill e.e. yr Hafan yn Gymraeg.

Hawlfreintiau

[golygu | golygu cod]

Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus.

Ffeiliau o Gymru

[golygu | golygu cod]

Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau John Thomas wedi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld yma.

Dolennu gydag erthyglau Wicipedia

[golygu | golygu cod]

Mae 'galw' delwedd i fewn i erthygl ar Wicipedia yn hawdd, gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy galw ei enw o fewn cromfachau sgwâr e.e. [[Delwedd|Dafydd-Iwan-Portrait_by-Aberdare-Blog.jpg|bawd]]; mae'r geiryn 'bawd' yn lleihau'r maint i'r maint arferol. Gall y ddelwedd fod ar Gomin neu ar y Wicipedia. Mae'r lluniau sydd ar Comin ar gael ar unrhyw un o'r 290+ Wicipedia, ond mae llun a uwchlwythir ar y Wicipedia Cymraeg ar gael yn yr iaith honno'n unig (e.e. cloriau llyfrau).

Ar waelod llawer o erthyglau ar Wicipedia ceir baner ar ffurf petrual, sy'n ei gwneud yn hawdd i ddolennu gyda Chomin. Gellir dolennu gyda thudalen ar Comin neu gyda Chategori ar Comin. I ddolennu gydag erthygl ar Comin gellir ychwanegu'r Nodyn hwn: ((Comin|Dafydd Iwan)). Os oes Categori o luniau ar Comin, gellir ychwanegu dolen i'r Categori hwnnw: e.e. ((CominCat|Corduliidae)). Nodyn Comin Gan mai'r Saesneg yw iaith de facto, rhyngwladol Comin, dylid nodi'r enw yn yr iaith sydd ar Comin e.e. ((CominCat|Assemblea Nacional Catalana)) ac NID ((CominCat|Cynulliad Cenedlaethol Catalonia)).

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
{{bottomLinkPreText}} {{bottomLinkText}}
Comin Wicimedia
Listen to this article

This browser is not supported by Wikiwand :(
Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience.
Please download and use one of the following browsers:

This article was just edited, click to reload
This article has been deleted on Wikipedia (Why?)

Back to homepage

Please click Add in the dialog above
Please click Allow in the top-left corner,
then click Install Now in the dialog
Please click Open in the download dialog,
then click Install
Please click the "Downloads" icon in the Safari toolbar, open the first download in the list,
then click Install
{{::$root.activation.text}}

Install Wikiwand

Install on Chrome Install on Firefox
Don't forget to rate us

Tell your friends about Wikiwand!

Gmail Facebook Twitter Link

Enjoying Wikiwand?

Tell your friends and spread the love:
Share on Gmail Share on Facebook Share on Twitter Share on Buffer

Our magic isn't perfect

You can help our automatic cover photo selection by reporting an unsuitable photo.

This photo is visually disturbing This photo is not a good choice

Thank you for helping!


Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.

X

Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?