Clifford Evans
Clifford Evans | |
---|---|
Ganwyd | 17 Chwefror 1912 Senghennydd |
Bu farw | 9 Mehefin 1985 Aberaeron |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Priod | Hermione Hannen |
Roedd Clifford George Evans (17 Chwefror 1912 – 9 Mehefin 1985) yn actor Cymreig.
Yn ystod haf 1934 ymddangosodd Evans yn A Midsummer Night's Dream yn yr Open Air Theatre yn Llundain. Chwaraeodd sawl rhan mewn ffilmiau Prydeinig o'r 1930au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn wrthwynebydd cydwybodol, yn gwasanaethu yn y Corfflu Di-frwydr. Parhaodd i actio yn ystod y rhyfel agan serennu yn y ffilmiau The Foreman Went to Ffrance (1942) [1] a The Flemish Farm (1943).
Ar ôl y rhyfel, rolau ffilm mwyaf adnabyddus Evans oedd i Hammer Studios : chwaraeodd Don Alfredo Carledo yn Curse of the Werewolf (1961) a'r Athro Zimmer, heliwr fampir meddw, yn The Kiss of the Vampire (1963).[2] Efallai mae ei rôl ffilm olaf oedd Dylan (1978).
Ar y teledu, ymddangosodd Evans gyda George Woodbridge a Tim Turner yn y gyfres Stryker of the Yard am 15-pennod (1957). Rhwng 1965 a 1969, chwaraeodd ran flaenllaw yn y ddrama deledu am ddiwydiant The Power Game, yn chwarae rhan y teicŵn adeiladu, Caswell Bligh.[3] Mae hefyd ymhlith nifer o actorion Prydeinig i chwarae cymeriad Rhif Dau yn The Prisoner (" Do Not Forsake Me Oh Oh My Darling ", 1967). Ymddangosodd hefyd mewn tair pennod o The Avengers, yn The Champions, The Saint, a Randall a Hopkirk (Deceased) ("When did You Start to Stop Seeing Things?", 1969). Y flwyddyn ganlynol, chwaraeodd Syr Iain Dalzell, un o brif gymeriadau cyfres deledu'r BBC Codename (1970).
Priododd Hermione Hannen, a oedd yn actores.[4]
Ffilmyddiaeth rhannol
[golygu | golygu cod]- The River House Mystery (1935) - Ivan
- Ourselves Alone (1936) - Commandant Connolly
- Calling the Tune (1936) - Peter Mallory
- The Tenth Man (1936) - Ford
- The Mutiny of the Elsinore (1937) - Bert Rhyne
- Under Secret Orders (1937) - Rene Condoyan
- 13 Men and a Gun (1938) - Jorg
- Luck of the Navy (1938) - Lieut. Peel
- His Brother's Keeper (1940) - Jack Cornell
- At the Villa Rose (1940) - Tace
- The Proud Valley (1940) - Seth Jones
- The House of the Arrow (1940) - Maurice Thevenet
- Freedom Radio (1941) - Dressler
- Fingers (1941) - Fingers
- Love on the Dole (1941)[5] - Larry Meath
- Penn of Pennsylvania (1942) - William Penn
- The Foreman Went to France (1942) - Fred Carrick, the foreman
- Suspected Person (1942) - Jim Raynor
- The Saint Meets the Tiger (1943) - Tidemarsh / The Tiger
- The Flemish Farm (1943) - Jean Duclos
- Silver Darlings (1947) - Roddie
- While I Live (1947) - Peter
- The Twenty Questions Murder Mystery (1950) - Tom Harmon
- Escape Route (1952) - Michael Grand
- The Accused (1953) - Dan Anderson
- Valley of Song (1953) - Geraint Llewellyn
- The Straw Man (1953) - Jeff Howard
- Stryker of the Yard (1953) - Inspector Stryker
- Solution by Phone (1954) - Richard Hanborough
- The Red Dress (1954) - Sam Pugh (segment "Red Dress' story)
- Companions in Crime (1954) - Inspector Stryker
- The Gilded Cage (1955) - Ken Aimes
- Passport to Treason (1956) - Orlando Syms
- Face in the Night (1957) - Inspector Ford
- At the Stroke of Nine (1957) - Inspector Hudgell
- The Heart Within (1957) - Matthew Johnson
- Violent Playground (1958) - Heaven
- SOS Pacific (1959) - Petersen
- The Curse of the Werewolf (1961) - Alfredo
- The Kiss of the Vampire (1963) - Professor Zimmer
- The Long Ships (1964) - King Harald
- A Twist of Sand (1968) - Admiral Tringham
- One Brief Summer (1971) - Mark Stevens
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Foreman went to France". BBFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-24. Cyrchwyd 8 August 2016.
Lists the actor as Evens not Evans
- ↑ Bergan, Ronald (20 December 2011). "Don Sharp obituary". The Guardian. Cyrchwyd 8 August 2016.
- ↑ Hayward, Anthony (24 October 2006). "Peter Barkworth Obituary". The Independent. Cyrchwyd 8 August 2016.
- ↑ "Hermione Hannen Biography". IMDB. Cyrchwyd 8 August 2016.
- ↑ "Welsh film history: 1940-49". BBC Wales. BBC. 5 March 2010. Cyrchwyd 8 August 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Clifford Evans ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.