Baner Tyrcmenistan
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyrdd, coch, gwyn, melyn |
Dechrau/Sefydlu | 19 Chwefror 1992 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifir baner Tyrcmenistan (Turkmeneg: Türkmenistanyň baýdagy, Түркменистаның байдагы) fel Maes gwyrdd ac arno pum seren wen a chilgant a stribed fertigol coch ger y hòs yw baner Tyrcmenistan. Ar hyd y stribed coch darlunir pum patrwm carpedi traddodiadol, uwchben torch olewydd. Mae'r stribed goch yn ddarlun o garpedi enwog y wlad.
Cyflwynwyd y faner ar 27 Medi 1992 gan ddisodli baner Sofietaidd y wlad (gw. isod). Newidiwyd cymeseredd y faner rhywfaint ar 24 Ionawr 2001 gan fabwysiadu ratio 2:3.
Baneri Hanesyddol Tyrcmenistan
[golygu | golygu cod]Baner yr Ymerodraeth Rwsiaidd y Tsar oedd baner swyddogol Tyrcmenistan hyd nes dyfodiad comiwnyddiaeth gyda Chwyldro Rwsia.
Yn ystod yr Undeb Sofietaidd hyd nes annibyniaeth yn 1991, roedd baner Tyrcmenistan yn debyg i holl faneri eraill gweriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd.
-
1:2 Tyrcmenistan ASSR, 1919 tan 1924
-
1:2 Gweriniaeth Tyrcmenistan yn yr Undeb Sofietaidd, 1 Awst 1953 tan 1991
-
1:2 Gweriniaeth Tyrcmenistan Undeb Sofietaidd, 1 Awst 1953 tan 1991, tu cefn
-
1:2 Tyrkmenistan, 1992 tan 1997
-
1:2 Tyrkmenistan, 1997 tan 2001
Baneri Milwrol Tyrcmenistan Annibynnol
[golygu | golygu cod]
|
Text is available under the CC BY-SA 4.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.