Y gwyddonydd Swis Friedrich Miescher, a ddarganfu asidau niwclëig (DNA) yn 1869.[1] Yn ddiweddarach, awgrymodd y gallent chwarae rhyw ran o etifeddeg.[2]
Bio-polymerau o niwcleotidau ydyw asidau niwclëig, sy'n rhan anhepgor o fiocemeg bywyd ar y ddaear. Maent yn un o'r ychydig ffactorau sy'n nodweddu popeth byw. Mae iddynt ddwy ffurf wedi'u sylfaenu ar ribos (RNA - acronym o'r Saesneg RiboNucleic Acid) a deocsiribos (DNA). Asid niwclëig deocsiribos (DNA) sy'n ymgorffori holl wybodaeth etifeddol organeb byw (a phob cell ynddynt). Dyma sylfaen y cromosomau ac etifeddiaeth fiolegol.
Mae swyddogaethau asid niwclëig ribos (RNA) yn fwy amrywiol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidauDNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu proteinau). Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.
This browser is not supported by Wikiwand :( Wikiwand requires a browser with modern capabilities in order to provide you with the best reading experience. Please download and use one of the following browsers:
Your input will affect cover photo selection, along with input from other users.
X
Get ready for Wikiwand 2.0 🎉! the new version arrives on September 1st! Don't want to wait?
Oh no, there's been an error
Please help us solve this error by emailing us at support@wikiwand.com
Let us know what you've done that caused this error, what browser you're using, and whether you have any special extensions/add-ons installed.
Thank you!